Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2018
Amser:
09.03 -
10.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5086
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jayne Bryant AC Andrew RT Davies AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Helen Mary Jones AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Tim Render, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 6 a 7 yng nghyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 12 Rhagfyr 2018 i drafod yr adroddiad drafft ar Fil Amaethyddiaeth y DU.
1.1 Cafodd y Pwyllgor frîff llafar ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Gwasanaeth Ymchwil.
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
5.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i rannu unrhyw sylwadau ychwanegol gyda'r Pwyllgor i lywio ei adroddiad ar Fil Amaethyddiaeth y DU.
5.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i rannu'r ohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch trefniadau Sefydliad Masnach y Byd gyda'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo'n dod i law.
5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 5.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar adfer bioamrywiaeth a chytunodd arno. Cytunodd hefyd i ymgymryd ag ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.